Deiseb a gwblhawyd Deddfwriaeth Orfodol i Sicrahau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i sicrhau, fel yn achos offer diffodd tân sylfaenol (e.e. diffoddwyr), bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael ym mhob man cyhoeddus yng Nghymru (wedi’u hariannu gan y GIG, gan elusen neu yn breifat) i sicrhau bod unrhyw un sy’n dioddef ataliad ar y galon yn cael eu trin yn gyflym
Gwybodaeth Ategol: Mae Cymru wedi arwain y ffordd gyda materion pwysig ynghylch iechyd y cyhoedd megis gwahardd ysmygu a rhoi organau. Yn wahanol i ddiffoddwyr tân a phecynnau cymorth cyntaf, nid oes deddfwriaeth ar hyn o bryd yn y DU i sicrhau bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael i drin pobl sy’n cael ataliad sydyn ar y galon yn gyhoeddus. Mae sawl achos amlwg diweddar wedi dangos pa mor bwysig ydynt wrth achub bywydau yn ein cymunedau.
Rhagor o fanylion
Mae Cymru wedi arwain y ffordd gyda materion pwysig ynghylch iechyd y cyhoedd megis gwahardd ysmygu a rhoi organau. Yn wahanol i ddiffoddwyr tân a phecynnau cymorth cyntaf, nid oes deddfwriaeth ar hyn o bryd yn y DU i sicrhau bod diffibrilwyr allanol awtomataidd ar gael i drin pobl sy’n cael ataliad sydyn ar y galon yn gyhoeddus. Mae sawl achos amlwg diweddar wedi dangos pa mor bwysig ydynt wrth achub bywydau yn ein cymunedau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon