Deiseb a gwblhawyd Swyddi Cymreig

‘Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymell cyflogwyr sy’n adleoli i Gymru, neu’n agor cyfleusterau a marchnadoedd yma, i recriwtio staff lleol a’u hyfforddi pan fo angen gwneud hynny.’

Gwybodaeth ategol:

Mae enghreifftiau o bob cwr o Gymru o swyddi newydd yn cael eu cymryd gan weithluoedd o’r tu allan i Gymru - gweithluoedd cyfan mewn rhai achosion. Gallai cytuno ar ddiffiniad o ‘weithiwr allweddol’ helpu i osgoi sefyllfaoedd fel hyn. Dylid ei gyfyngu i swyddi arbenigol pan nad yw’r sgiliau neu’r cymwysterau gofynnol ar gael yn lleol a phan na allai pobl leol eu hennill yn ystod cyfnod byr o hyfforddiant. Fel arall, mae’n gamarweiniol, ar y gorau, bod gwleidyddion, y cyfryngau ac eraill yn cyhoeddi ‘swyddi newydd’, pan fo pobl Cymru yn cael eu hamddifadu o’r swyddi hynny, i bob pwrpas.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

65 llofnod

Dangos ar fap

5,000