Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Yn erbyn Safle yng Ngogledd Cymru yn y Cynllun Parthau Cadwraeth Morol
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i BEIDIO â chynnwys unrhyw un o’r chwech man arfaethedig yng ngogledd Cymru mewn Parth Cadwraeth Morol. Rydym yn gwrthwynebu cynnwys Llanbedrog/Pwllheli, Aberdaron/Ynys Enlli, Porthdinllaen/Tudweiliog, Aberch/ Llanystumdwy, Ynys Seiriol/Biwmares a Gogledd Ddwyrain Afon Menai.
Byddai’r cais hwn yn cael effaith niweidiol nid yn unig ar ein diwydiant pysgota ond hefyd ar yr economi twristiaeth. Rydym yn dibynnu ar ein harfordir am ein bywoliaeth a’n mwynhad. Rydym yn gwrthwynebu yn y termau cryfaf y chwe man arfaethedig
Rhagor o fanylion
Hefyd, mae gennym gopi caled o ddeiseb o amgylch ardal Pen Llŷn, a hoffem gyflwyno copi fel rhan o’r ymgynghoriad. .
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon