Deiseb a gwblhawyd Ymgyrch ’DIG FOR VICTORY’

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno ymgyrch ‘Dig for Victory’ gyfoes drwy gynghorau lleol.

Rhagor o fanylion

Gyda phris bwyd yn parhau i godi yn ystod cyfnod o ddirwasgiad, mae angen unwaith eto i ni dyfu ein bwyd ein hunain, fel y gwnaethpwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan gyflwynwyd ymgyrch ‘Dig for Victory’ i sicrhau bod pawb yn cael bwyd. Os byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ymgyrch debyg drwy’r cynghorau lleol, gan roi talebau neu hadau, compost neu hyd yn oed cutiau ieir ac ieir (lle bo hynny’n briodol), byddai pobl yn cael budd ariannol a byddai eu hiechyd hefyd yn elwa. Byddai hefyd yn cwtogi ar y bwyd rydym yn ei fewnforio, gan leihau ein hôl troed carbon. Mae gan y rhan fwyaf o bobl ardd, a gall pobl sydd heb ardd dyfu rhai llysiau ar batio neu falconi. Gadewch i ni balu i fuddugoliaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

13 llofnod

Dangos ar fap

5,000