Deiseb a gwblhawyd Adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr , ar raddfa a rhwysg Cofeb William Wallace yn Stirling, yr Alban . Mae amryw o leoliadau a fyddai’n addas gan gynnwys Corwen a Machynlleth, i enwi dim ond dau. Os gall Llywodraeth Cymru, yn ôl y sôn, fod yn cynllunio i ailaddurno cyntedd bloc swyddfeydd Aelodau’r Cynulliad sy’n costio 200k , yna credwn y gall Llywodraeth Cymru fuddsoddi swm o arian hyd yn oed yn fwy mewn adeiladu Cofeb i Owain Glyndŵr, sef Tywysog Brodorol Olaf Cymru . Ar ôl ei gwblhau, byddai’n rhoi lleoliad y Gofeb ar y map gan ddod â chyllid, y mae cymaint o’i angen, i mewn o dwristiaeth gan roi hwb pellach i ddelwedd Cymru. Felly byddai pawb yn elwa.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon