Deiseb a gwblhawyd Achub Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer Pobl Hŷn

‘Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu cau Llety Gwarchod Kennard Court ar gyfer pobl hŷn. Gorfodwyd y trigolion i adael yr adeilad a dod o hyd i rywle arall i fyw, am y rheswm ffug bod asbestos ynddo. Nid yw trigolion y Llety wedi cael cefnogaeth i’w hachos gan neb, ac maent bron â rhoi’r ffidil yn y to. Mae angen i ni eu cefnogi a’u cynorthwyo i aros yn eu cartref. Mae rhai trigolion wedi cael eu symud eisoes, ac mae bygythiad i droi’r rhai sy’n weddill o’u cartref os na fyddant yn symud. Mae Bron Afon yn targedu pobl agored i niwed, hŷn, sy’n 70 oed a throsodd. Nid yw hyn yn deg, a rhaid rhoi terfyn arno. Mae’n anodd meddwl am y trigolion, yn y cyfnod hwn yn eu bywydau, yn dioddef y straen a’r pryder o orfod cael eu hail-gartrefu. Llofnodwch y ddeiseb hon.

Mae’r rhan fwyaf o’r trigolion hyn, ynghyd â’u cyndeidiau, wedi byw ym Mlaenafon ar hyd eu hoes. Maent wedi cyfrannu at Flaenafon a’r gymuned. MAE ANGEN EIN CEFNOGAETH NI ARNYNT.’

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

19 llofnod

Dangos ar fap

5,000