Deiseb a gwblhawyd Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau
Darn o’r morlin rhwng Gwaith Dur Port Talbot a Thraeth Sgêr yw Traeth Morfa, gerllaw Gwarchodfa Natur Cynffig . Dim ond ar droed neu ar feic y mae’n bosibl cael mynediad i’r traeth, felly mae wedi dod yn fan gwerthfawr o heddwch a thawelwch. Yn 2011 ffurfiwyd y grŵp cymunedol , “Save Morfa Beach (Friends of Morfa) †mewn ymateb i fygythiad drwy Waith Dur TATA a oedd yn ceisio atal mynediad i’r traeth. Mae hyn yn cynnwys cau dau lwybr troed cyhoeddus o arwyddocâd hanesyddol sy’n cael llawer o ddefnydd ac sy’n arwain i’r traeth: Llwybr troed 92 o Longland’s Lane ym Margam a Llwybr Troed 93 o Warchodfa Natur Cynffig. Mae’r DEISEBWYR yn cefnogi ymgyrch sefydliad Save Morfa Beach (Friends of Morfa) i ddiogelu’r hawliau tramwy ar hyd llwybrau troed 92 a 93 a chadw’r mynediad i Draeth Morfa. Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot gynnal a chadw’r holl hawliau tramwy ar Margam Burrows, ac ymgysylltu â Tata Steel er mwyn sicrhau bod mynediad cyhoeddus i’r traeth yn parhau.
Gwybodaeth ategol: Pa un ai a yw hawliau tramwy’n croesi tir preifat neu dir cyhoeddus, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chynulliad Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod, eu bod ar gael a’u bod yn addas i’r diben. Rydym felly’n lobïo, ond fel sefydliad nid ydym yn wleidyddol . Cafodd Grŵp ei greu ar Facebook (www.facebook.com/groups/SaveMorfaBeach/) fel proffil cyhoeddus y sefydliad.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon