Deiseb a gwblhawyd Gwneud Wenglish yn iaith gydnabyddedig swyddogol yng Nghymru, fel Sgoteg yn yr Alban!
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod Wenglish yn iaith swyddogol, fel Sgoteg yn yr Alban.
Gwybodaeth ategol: Mae Wenglish yn cyfeirio at dafodieithoedd Saesneg a siaredir yng Nghymru gan bobl Cymru. Mae dylanwad gramadeg y Gymraeg yn drwm ar y tafodieithoedd hyn ac yn aml maent yn cynnwys geiriau sy’n tarddu o’r Gymraeg. Yn ogystal â’r geiriau a’r gramadeg gwahanol, mae amrywiaeth o acenion i’w cael ledled Cymru - o dafodiaith Caerdydd i iaith Cymoedd y De a Gorllewin Cymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon