Mae'r broses ddeisebau wedi'i hatal ar hyn o bryd yn y cyfnod cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai. Bydd y broses yn ailddechrau ar ôl yr etholiad a bydd yn bosibl llofnodi deisebau eto bryd hynny.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad y Senedd 2026 i’w chael yn : https://senedd.cymru/etholiad
Deiseb a gwblhawyd Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi
’Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:
i. I roi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn dioddefwyr dementia yng Nghymru sy’n gwneud cais am Arian Gofal Parhaus y GIG, drwy ganiatáu i’r categori gwybyddiaeth o angen (a elwir yn ‘barth’) godi i lefel ‘Difrifol’ yn y fersiwn Gymraeg o’r Offeryn Gwneud Penderfyniadau. Byddai hyn yn ei gwneud yn gydnaws â’r fersiwn Saesneg; a
ii. Bod Byrddau Iechyd Lleol uniongyrchol yn gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Arian Gofal Parhaus y GIG, yn gywir, o ran cymhwysedd cleifion a heb ystyried cyfyngiadau cyllidebol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon