Deiseb a wrthodwyd Ailasesu graddau lefel A yng Nghymru er mwyn tegwch i'r myfyrwyr

Ddoe gesi fy nghanlyniadau lefel A, yn anffodus rwyf yn un o'r 42% o pobl ifanc cafodd graddau llai na fy ngraddau rhagwelir gan athrawon. Golygai hyn ni allaf ymgeisio i'r cyrsiau Nyrsio a Paramedic yn y brifysgol gan nad oes gennyf ddigon o bwyntiau hefo'r graddau isel cefais gan y llywodraeth. Dwi'n un o cannoedd o phobl ifanc yng Nghymru sydd yn gorfod delio hefo'r annhegwch yma sydd ddim bai arno ni, mae angen ail asesiad rwan. Mae angen i'r Llywodraeth sylweddoli eu camgymeriad.

Rhagor o fanylion

Mae hyn yn gyfle i gael cywiro camgymeriad mawr, ac ennill ymddiriedolaeth pobl ifanc yn ôl i'r Llywodraeth. Mi wnaiff pobl ifanc fyth anghofio y cam yma os nad yw'n cael ei gywiro

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae deiseb yn bodoli eisoes ar y mater hwn. Ni allwn dderbyn deiseb newydd os oes un yn bodoli eisoes ar fater tebyg iawn, neu os yw’r Pwyllgor Deisebau wedi ystyried deiseb debyg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae deiseb arall ynghylch dyfarnu graddau a ragwelwyd i fyfyrwyr ar gyfer arholiadau 2020 eisoes yn casglu llofnodion: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/ 200222
Byddech yn fwy tebygol o gael canlyniad ar y mater hwn pe baech yn llofnodi a rhannu’r un ddeiseb.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi