Deiseb a wrthodwyd Welsh Government to source all Personal Protection Equipment (PPE) from companies based in Wales.

At the beginning of the most recent pandemic (Covid 19) there was a lack of PPE equipment for Care Homes and Hospitals and many local companies stood up to the plate to provide it directly. Due to the world wide need of PPE equipment, it was difficult to source the product from abroad, with this only being achieved eventually with costly imports and delays. By sourcing locally, there will be adequate protection for our key workers immediately available to save lives.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Gan fod y ddeiseb hon yn ymwneud â nwyddau y gallai Llywodraeth Cymru eu prynu, mae angen ystyried y rheolau caffael.

Mae Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn gymwys i unrhyw weithgaredd caffael gan gorff cyhoeddus (fel Llywodraeth Cymru) mewn perthynas â chontractau am nwyddau, gwaith neu wasanaethau sy'n uwch na throthwyon ariannol penodedig.

Pan fo Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 yn gymwys, mae'n ofynnol i'r corff cyhoeddus perthnasol drin pob gweithredwr economaidd (cynigwyr) yn gyfartal a heb wahaniaethu (rheoliad 18(1)). At hynny, ni ddylid cynllunio gweithgaredd caffael gyda'r bwriad o leihau cystadleuaeth yn artiffisial, sy'n golygu bod â’r bwriad o ffafrio neu anffafrio rhai gweithredwyr economaidd (rheoliadau 18(2) a (3)).

Felly, nid yw'n bosibl ar hyn o bryd i weithgaredd caffael gael ei gynnal ar gyfer ‘cyflenwyr Cymru yn unig’.

Am y rhesymau amlinellir uchod ni ellir derbyn y ddeiseb hon.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi