Deiseb a gwblhawyd Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gŵyr, nes y ceir gwerthusiad o’r effeithiau andwyol

Yn dilyn dechrau'r gwaith carthu ym Mae Rhosili, bu tywod yn disbyddu i raddau sylweddol a difrifol ar draeth cyfagos Rhosili. Mae'r ardal hon – sydd o bwysigrwydd rhyngwladol – yn cynnwys systemau twyni cysylltiedig y bydd disbyddu tywod hefyd yn effeithio'n andwyol arnynt. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar waith carthu ar unwaith nes y cynhelir adolygiad gwyddonol o'r disbyddu tywod a’r hyn sydd, o bosibl, yn ei achosi, er mwyn osgoi difrod parhaol a cholli cynefinoedd.

Rhagor o fanylion

Yn ôl tystiolaeth anecdotaidd, er gwaethaf y tywydd cymharol fwyn dros dymor yr haf 2020 hyd yn hyn, mae lefelau tywod ar draeth Rhosili wedi disbyddu’n ddifrifol. At hynny, ymddengys fod niferoedd sylweddol uwch o weddillion cregyn molysgiaid (fel cocos, cregyn gleision, cyllyll môr, wystrys, ac ati) yn ogystal â chynnydd enfawr yn y niwed i sêr môr. Gyda thymor stormydd yr hydref a'r gaeaf ar y gweill, gallai’r sefyllfa ddatblygu i fod yn drychinebus i'r ecosystemau hynod fregus sy'n dibynnu ar ddyddodion tywod naturiol. Er y gallai fod yn gyd-ddigwyddiad bod gwaith carthu wedi digwydd ar yr un pryd â disbyddu tywod anarferol o helaeth yn Rhosili, mae'n hanfodol bod y gwaith carthu yn cael ei ohirio ar unwaith fel bod cyfle i astudiaeth wyddonol swyddogol werthuso’r achosion tebygol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

63 llofnod

Dangos ar fap

10,000