Deiseb a wrthodwyd Regulate international educational partnerships to prevent foreign influence

Confucius Institutes (CIs) are Trojan propaganda organs funded by the Chinese Communist government and hosted by educational institutions outside of China in the name of language teaching & cultural exchanges. The UK hosts 30 CIs in universities and over 100 Confucius ‘Classrooms’ (CCs) in schools.

Rhagor o fanylion

Serious concerns about Confucius Institutes (CIs) and their threat to freedom has led to the closure of 53 CIs worldwide:
•CI is a propaganda tool for the Chinese Communist Party (CCP)
•CI promotes communist propaganda in textbooks & cultural events
•CI discriminates against teachers in their hiring practices
•CI plays the role of a spy agency for the CCP
Regulate international educational partnerships with CI to protect democratic values, freedom of thought and prevent foreign influence.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.

Mae’n rhaid i ddeisebau i’r Senedd alw am gamau gweithredu penodol sy’n dod o fewn pwerau’r Senedd neu Lywodraeth Cymru.
Sefydliadau annibynnol i raddau helaeth yw prifysgolion ac er eu bod yn cael rhywfaint o arian cyhoeddus maent hefyd yn cael incwm gan noddwyr, rhoddwyr a phartneriaid prosiect. Mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw gryn annibyniaeth. Felly, mae'n anodd gweld pa ddull cyfreithiol y gallai Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i ymyrryd mewn cytundeb masnachol dwyochrog rhwng Prifysgol yng Nghymru ac unrhyw drydydd parti.
Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Materion Tramor Tŷ'r Cyffredin adroddiad a argymhellodd y dylai Llywodraeth y DU roi'r canllawiau diweddaraf i brifysgolion ar y goblygiadau gwleidyddol, diplomyddol a chyfreithiol o dderbyn cyllid gan sefydliadau sydd wedi'u lleoli mewn gwladwriaethau annemocrataidd ac ystyried cydweithio â nhw. Rhoddwyd y cyfrifoldeb ar y Prifysgolion i benderfynu (ar ôl ystyried y canllawiau priodol) a yw partneriaethau o'r fath yn briodol.

O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi