Deiseb a gwblhawyd Tegwch i fyfyrwyr sy'n sefyll arholiadau yn 2021

Fel y mae'r Gweinidog Addysg yn ei gydnabod, mae'r wythnosau diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bobl ifanc sydd eisoes wedi'u rhoi dan anfantais oherwydd Covid-19. Rydym yn croesawu ymddiheuriad y Gweinidog Addysg. Yn awr, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys i sicrhau bod myfyrwyr sydd i fod i sefyll arholiadau safon uwch, Bagloriaeth Cymru a TGAU yn 2021 yn cael eu trin yn deg ac nad oes unrhyw un dan anfantais.

Croesewir yr adolygiad annibynnol a gynllunnir yn fawr, ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o fanylion.

Rhagor o fanylion

Yng Nghymru, gyda lefelau AS, a mwy o ffocws ar waith cwrs, mae gennym sail fwy cadarn ar gyfer barnu gwaith myfyrwyr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i lwfansau gael eu gwneud ar gyfer yr amser y mae myfyrwyr wedi methu yn yr ysgol neu'r coleg.

Mae'n amlwg i'n haelodau bod angen i Lywodraeth Cymru wneud newidiadau i arholiadau'r flwyddyn nesaf er mwyn magu hyder bod y graddau a ddyfernir y mae cyfleoedd pobl ifanc mewn bywyd yn cael eu penderfynu arnynt, yn cydnabod ac yn gwobrwyo eu cyflawniadau'n briodol.

Credwn hefyd y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio nawr ar:

• Lleihau cynnwys y cwricwlwm a gaiff ei asesu ar gyfer arholiadau TGAU, Bagloriaeth Cymru a safon uwch yr haf nesaf, drwy wneud rhai topigau'n ddewisol ar draws pob pwnc.

• Gweithio gydag athrawon, darlithwyr, arweinwyr ac undebau llafur i ddatblygu system Gymreig o raddau a asesir gan canolfannau cymedroli rhag ofn y bydd mwy o darfu ar arholiadau yr haf nesaf.

• Defnyddio'r cyfle hwn i ddatblygu system gadarn sy'n sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau ac nad ydynt yn cael eu dal yn ôl oherwydd eu cefndir.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,022 llofnod

Dangos ar fap

5,000