Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno proses apeliadau yng Nghymru mewn perthynas â'r holl Raddau Asesu Canolfannau ar gyfer rhaglen arholiadau cyhoeddus 2020

Roeddem yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y dylai’r canlyniadau ar gyfer arholiadau 2020 gael eu harfarnu ar sail graddau asesu canolfannau. Fodd bynnag, yr hyn sydd ei angen ar ddysgwyr yn awr yw proses dryloyw ar gyfer apelio yn erbyn unrhyw raddau asesu canolfannau a allai fod wedi cael eu gostwng yn sgil y meini prawf asesu a bennwyd gan CBAC, a hynny gan ddiystyru mesurau cydadferol; hynny yw, amgylchiadau amrywiol ymhlith dysgwyr sy'n effeithio ar ddata.

Rhagor o fanylion

Rhai enghreifftiau
• salwch neu faterion meddygol ymhlith dysgwyr a arweiniodd at absenoldeb o’r ysgol, achosion o fethu arholiadau ffug a phrofion pwnc, a gostyngiad yn y data olrhain;
• anghysondebau neu broblemau staffio a effeithiodd ar ansawdd yr addysgu ac yn effeithio ar ganlyniadau data dysgwyr;
• dysgwyr ag anghenion ychwanegol a oedd yn absennol, o bosibl, neu wedi’u hynysu, neu na chafodd gefnogaeth ddigonol o ran eu hanghenion addysgol arbennig; byddai hyn yn effeithio ar yr holl ddata ac yn eithrio eu potensial;
• plant sy’n derbyn gofal a allai fod yn mynd drwy newidiadau o ran eu hysgol neu eu rhieni maeth, ac yn profi trawma emosiynol a allai effeithio ar ddata.
Mae Cymwysterau Cymru wedi mynegi pryder yn y cyfryngau ynghylch y ffaith y gallai’r broses o ddefnyddio graddau asesu canolfannau gynnwys elfen o chwyddiant o ran y canlyniadau a gafodd eu harfarnu gan athrawon. Os yw’r pryder hwn yn un dilys, mae hefyd yn bosibl y byddai athrawon, er mwyn gwrthbwyso’r chwyddiant hwn, yn tueddu i ddefnyddio graddau cydadferol, sef graddau wedi’u gostwng, er mwyn sicrhau patrwm perfformiad arferol yn yr ysgol. Felly mae'n debygol y bydd rhai myfyrwyr yn siomedig â'u graddau asesu canolfannau, ac yn yr achosion hynny, dylai fod modd iddynt geisio apêl yn erbyn eu hysgolion.

Parents Voices in Wales.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

87 llofnod

Dangos ar fap

5,000