Deiseb a wrthodwyd Cynigiwch opsiynau astudio gartref i fyfyrwyr ag asthma.

Cynigiwch opsiynau astudio ar-lein a gartref i fyfyrwyr ag asthma neu aelodau teulu â phroblemau iechyd. Peidiwch â’u gorfodi i fynd yn ôl i’r coleg lle nad yw pellter cymdeithasol yn cael ei gadw mewn ystafelloedd dosbarth.

Rhagor o fanylion

Aeth y ferch i’r coleg 6ed dosbarth y llynedd, ennill 4 gradd A ar Safon UG heb ailraddio. Nawr, y cyfan a gynigir gan y coleg yw swigod amddiffynnol, fel y’u gelwir. Nid yw pellter cymdeithasol yn cael ei gadw O GWBL yn y dosbarthiadau neu swigod hyn. Nid yw hyn yn amgylchedd amddiffynnol i fyfyriwr ag asthma nac i’w riant gartref â nifer o broblemau iechyd. Rydym wedi gofyn i’n merch gael gweithio gartref ar-lein drwy linc fideo o’r gwersi a’r deunyddiau cwrs, ond dywedwyd wrthym na fydd yn cynnig hyn. Yn y bôn, cymerwch y risg neu peidiwch â dilyn cwrs Safon Uwch.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi