Deiseb a gwblhawyd Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

Bydd y cynllun presennol yn gwneud yn siŵr bod Canolfan Ganser Felindre yn parhau i ddarparu gwasanaethau canser arbenigol mewn lleoliad sy'n fwy hygyrch i gleifion, gyda gwell mynediad o Gyffordd 32 yr M4. Caiff ei dderbyn yn gyffredinol bod ysbytai mewn lleoliad naturiol yn cynorthwyo adferiad cleifion ac yn gostwng lefelau straen teuluoedd a staff mewn ysbytai.

Rhagor o fanylion

Nid oes digon o le i barcio yn y lleoliad presennol ac yn aml bydd oedi cyn cael mynediad, gan achosi straen a phryder ychwanegol i gleifion. Nid oes gan Ganolfan Ganser Felindre – sy’n 60 mlwydd oed – yr adnoddau na’r lle i fodloni’r her hon ar gyfer y dyfodol.

Rydym ni eisiau lle sy’n plethu gofal meddygol â byd natur.

Yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, bu cryn ddatblygiad ym maes effaith dyluniad pensaernïol ar lwyddiant amgylcheddau gofal iechyd. Un enghraifft yw 'pensaernïaeth sy’n iachau’. Bathwyd y term 'pensaernïaeth sy’n iacháu' gyntaf yn ystod y 1980au. Mae'n ddisgyblaeth benodol o'r 'amgylchedd iacháu', sy'n ymchwilio i ddylanwad yr amgylchedd ar broses iacháu ac adfer cleifion. Yn ôl ymchwil, gallai cleifion adael yr ysbyty’n gynt, ac efallai y byddai angen llai o gyffuriau i ladd poen arnyn nhw, petaen nhw mewn ystafelloedd gyda golygfa o barc â choed. Dangosodd astudiaethau diweddarach fod ffactorau o'r fath yn bwysig nid yn unig ar gyfer llesiant cleifion a thrigolion, ond ar gyfer gweithwyr hefyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11,392 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 3 Mawrth 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2021

Busnes arall y Senedd

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Yn ystod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2020, cododd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y cynigion i ddatblygu Canolfan Ganser newydd yn Felindre gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Prif Swyddog Meddygol.

Gallwch ddarllen y trawsgrifiad yma: https://cofnod.senedd.cymru/Committee/6443#C313015

Gallwch wylio’r sesiwn yma: http://www.senedd.tv/cy/6443?startPos=98&l=cy