Deiseb a wrthodwyd To ban the flying and display of the union flag. In Wales
I along with many Welsh people find the sight of the union flag in Wales offensive. It has no representation of Wales upon it. I understand the act of union but there are many 16th century laws no longer in use.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ‘faterion a gedwir yn ôl’ sy’n golygu nad oes gan y Senedd y grym i gymryd y camau y gofynnir amdanynt yn eich deiseb, gan gynnwys “uno Cymru a Lloegr” a rheoli ystâd y goron. O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.
Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi