Deiseb a gwblhawyd Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau
Ar hyn o bryd, dim ond athletwyr ‘elitaidd’ all chwarae gemau pêl-droed yng Nghymru. Caiff y gemau eu chwarae dan glo, heb unrhyw un yno’n gwylio.
Yn Lloegr, mae clybiau islaw’r chweched lefel bellach yn caniatáu i nifer cyfyngedig o bobl fynd i wylio gemau cyfeillgar ac yn yr Alban, mae’r ffans wedi dychwelyd i gemau’r PRO14.
Cyn belled â bod clybiau’n bodloni’r canllawiau a gyflwynwyd, dylen nhw gael yr hawl i chwarae gemau cyfeillgar gyda phobl yno’n eu gwylio.
Rhagor o fanylion
Y tymor diwethaf, roedd dros 500 o bobl, ar gyfartaledd, yn mynd i wylio gemau Caernarfon.
Gadewch i glybiau Cymru gael torfeydd o 500.
https://www.footballwebpages.co.uk/welsh-premier-league/attendances/2019-2020
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon