Deiseb a gwblhawyd Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu drwy CADW i sicrhau bod y Bont Wen ym Mhontypridd yn cael ei diogelu fel nad yw'r dref yn colli darn pwysig arall o'i threftadaeth hi a Chymru. Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Cymru.

Adeiladwyd y Bont Wen ym 1907, ac ar adeg ei hadeiladu dyma oedd y bwa concrit wedi'i atgyfnerthu hiraf ym Mhrydain. Cafodd ei rhestru’n strwythur Gradd II gan CADW ar 26 Chwefror 2001.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi nodi mai ei fwriad yw dymchwel y bont yn dilyn difrod storm yn gynnar yn 2020, sydd wedi ei gwneud yn anniogel ym marn y Cyngor. Yn ei lythyr at y Cynghorydd Mike Powell dyddiedig 25 Mehefin 2020, nododd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn glir fod Polisi Cynllunio Cymru yn esbonio y dylai “dymchwel unrhyw adeilad rhestredig gael ei ystyried yn ddigwyddiad eithriadol a rhaid bod cyfiawnhad cryf tu hwnt dros wneud hynny”, gan gynnwys datganiad o’r effaith ar dreftadaeth. Nododd hefyd fod ei swyddogion wedi pwysleisio y byddai angen lefel uchel o gyfiawnhad er mwyn i gais am gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig lwyddo.

Rhagor o fanylion

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

304 llofnod

Dangos ar fap

10,000