Deiseb a gwblhawyd Mesurau i atal dyfeisiau diwifr rhag cael eu defnyddio mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau llymach ar ddefnyddio dyfeisiau diwifr mewn meithrinfeydd ac ysgolion cynradd.

Rhaid i rieni / gofalwyr gael gwybod am y peryglon iechyd sydd wedi'u darganfod.

Rhaid sicrhau caniatâd rhieni / gofalwyr ymlaen llaw cyn gosod / defnyddio dyfeisiau WiFi.

Rhaid i'r canlyniadau canrannol fod yn glir i'r holl rieni / gofalwyr a'r rheini sydd â dyletswydd gofal.

Rhagor o fanylion

Rhaid sicrhau nad oes dyfeisiau WiFi yn cael eu defnyddio mewn un rhan o'r adeilad ar gyfer y rhai sydd yn erbyn defnyddio'r dyfeisiau hyn.

Os yw'r canlyniadau'n dangos nad yw'r rhieni/gofalwyr yn rhoi caniatâd, a'r ysgol eisoes yn defnyddio dyfeisiau WiFi a diwifr amrywiol, rhaid dadactifadu'r WiFi/Bluetooth a rhaid rhag-raglennu cymwysiadau addysgol ar gyfrifiaduron / tabledi etc.

​Cyhoeddodd WHO (Sefydliad Iechyd y Byd) ynghyd ag IARC (yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil i Ganser) ysgrif yn archwilio pa mor garsinogenig yw ymbelydredd tonnau radio-amledd electromagnetig 30 KHZ i 300GHZ.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

55 llofnod

Dangos ar fap

5,000