Deiseb a gwblhawyd Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr

Mae’r tâl cofrestru yn atchweliadol a chaiff ei ddidynnu o’n cyflogau ar ran Cyngor y Gweithlu Addysg a’r Llywodraeth. Mae’r un peth os ydych chi’n gweithio amser llawn, yn gyfrannol neu’n gweithio rhan-amser. Mae’r tâl yn dreth ar weithwyr addysg proffesiynol. Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff cynrychioliadol ac mae wedi methu â darparu datblygiad proffesiynol parhaus cynhwysfawr na bwrsariaethau a addawyd ar gyfer gwella gyrfa. Nid yw’n atebol i’w gofrestreion nac yn eu cynrychioli. Corff rheoleiddio ydyw, sy’n atebol i’r Gweinidog yn unig, felly ni ddylai godi unrhyw dâl cofrestru.

Rhagor o fanylion

Y tâl cofrestru blynyddol yw £45 ac mae’r tâl yn llai, sef £15, i weithwyr cefnogol. Mae’r tâl yr un peth os ydych chi’n gweithio amser llawn, yn gyfrannol neu’n gweithio rhan-amser. Mae’r gost am gofrestru yn seiliedig ar flwyddyn dreth rhwng mis Ebrill a mis Mawrth, felly rhaid i’r rheini sydd ar eu blwyddyn gyntaf o ddysgu neu o waith ieuenctid, neu rai sydd ar gontractau tymor byr, dalu ddwywaith sef ym mis Medi ac ym mis Ebrill. Nid oes cost rhannol ar gyfer pobl sydd ar gontractau cyfyngedig. Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff cynrychioliadol nac yn gymdeithas broffesiynol ar gyfer y rhai y mae’n eu cofrestru. Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn atebol yn ddemocrataidd i’w gofrestreion ac nid yw ei gorff llywodraethu yn gynrychioliadol o’r rhai y mae’n eu cofrestru. Nid yw athrawon ym maes Addysg Uwch a’r sector preifat yn cael eu rheoleiddio gan Gyngor y Gweithlu Addysg ac nid ydynt yn talu dim tâl cofrestru, ac nid oes yn rhaid i’r mwyafrif helaeth o benaethiaid ysgolion a rheolwyr ym maes Addysg Bellach, sef y staff ar y cyflogau uchaf yn y sector, gofrestru na thalu’r gost hyd yn oed os oes ganddynt gyswllt cyson a hir â dysgwyr. Mae hyn yn amlwg yn annheg, ac rydym yn galw am ddileu yn llwyr holl daliadau cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

371 llofnod

Dangos ar fap

5,000