Deiseb a gwblhawyd Llaciwch y cyfyngiadau gormodol i ganiatáu i ralïau chwaraeon modur gael eu cynnal yng Nghymru.

Mae ralïau ceir a gaiff eu cynnal yng Nghymru yn dod â thua £15 miliwn i economi’r wlad bob blwyddyn. Mae effaith COVID-19 a'r cyfyngiadau a osodir ar ddigwyddiadau wedi difrodi’r byd ralïo yng Nghymru, ac wedi effeithio ar swyddi, busnesau, gyrfaoedd ac hefyd wedi effeithio’n fawr ar gymunedau gwledig ledled Cymru sy'n elwa o 'dwristiaeth' ralïo. Goblygiadau’r cyfyngiadau presennol yw ei bod yn amhosibl i drefnwyr gynllunio ymlaen llaw ar gyfer 2021, ac felly gallai llawer yn rhagor o ddigwyddiadau, busnesau a swyddi gael eu colli yn barhaol.

Rhagor o fanylion

Mae’r byd ralïo wedi ymateb i effaith COVID-19, a chynhaliwyd digwyddiad treialu yn llwyddiannus yn Cumbria ym mis Awst. Roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys cystadleuwyr a deithiodd o bob rhan o'r DU i gyrraedd y digwyddiad mewn coedwig breifat. Nid oedd y digwyddiad yn cynnwys gwylwyr, a dilynwyd y canllawiau cadw pellter cymdeithasol yn llym.
Cwblhawyd y gwaith gweinyddol cyn y digwyddiad yn electronig. Nid oedd dim rhyngweithio corfforol rhwng swyddogion y cwrs, y stiwardiaid, y timau amseru na’r cystadleuwyr, drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Ni adroddwyd am ddim achosion o COVID-19 ers y digwyddiad, a rhoddwyd hwb i'r ardal leol (Penrith) wrth i ystafelloedd gwestyau gael eu gwerthu ac i fyrddau mewn bwytai gael eu harchebu.
Mae ralïo yng Nghymru yn cael ei gynnal mewn rhannau gwledig ac anghysbell o'r wlad, hynny yw, ardaloedd fel Dolgellau, Pembre, y Trallwng, Conwy, Cwm-nedd a Llanfair-ym-Muallt. Gellir dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a chynnal digwyddiadau ralïo mewn modd sy’n cydymffurfio â rheolau COVID-19 hyd eithaf ein gallu.
Ar hyn o bryd, mae'n amhosibl trefnu ralïau moduron yng Nghymru oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,889 llofnod

Dangos ar fap

5,000