Deiseb a gwblhawyd Dylid addasu maes llafur hyfforddiant athrawon i gynnwys Hyfforddiant Trawsnewidiol a Deallusrwydd Emosiynol

Mae arolwg wedi darganfod fod hyd at 33.6% o athrawon yn dweud eu bod yn bwriadu gadael y proffesiwn. Ar hyn o bryd, rydym yn colli 42% o Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn 2 flynedd oherwydd y llwyth gwaith a’r gorflinder. Bydd ychwanegu'r pynciau hyn at y maes llafur yn rhoi set sgiliau newydd i athrawon i’w helpu gyda'r pwysau ar hyn o bryd, a bydd y pynciau hyn yn galluogi ein cenhedlaeth nesaf o blant i ddatblygu gwydnwch a deall eu hemosiynau yn well. Mae niwrowyddoniaeth yn esblygu ac mae tystiolaeth yn dangos bod angen cryn newid. Bydd hyn yn cael cryn effaith ar iechyd meddwl ein cenhedlaeth nesaf o blant ac addysgwyr.

Rhagor o fanylion

Mae peidio â chynnig addysg am ein systemau mewnol a’r proses o feddwl yn achosi mwy o iechyd meddwl gwael. Wrth i amseroedd newid, rhaid i ni addasu. Fel cyn-athro, rwy’n deall y pwysau sydd ar y system. Bydd dysgu sgiliau cryf o ran deallusrwydd emosiynol, sgiliau meddal 'Alcemi Iaith' a hyfforddiant trawsnewidiol nid yn unig yn galluogi'r athrawon i reoli straen y rôl, ond hefyd yn helpu wrth feithrin cadernid meddwl. Yna, gallant drosglwyddo'r sgiliau hyn i ddisgyblion, gan greu diwylliant newydd o hunanymwybyddiaeth.

Byddant yn deall:
*Effaith iaith ar y corff a’r technegau cwestiynu treiddgar a fydd yn caniatáu iddynt hunan-hyfforddi trwy gyfnodau o bwysau, a dysgu ein plant sut i hunan-hyfforddi
*Cael gwared ar batrymau iaith negyddol
*Deall beth sydd wrth wraidd ein harferion
*Ailfeddwl am eu deialog fewnol: patrymau meddwl strategol a rhyddhau emosiynau negyddol
*Hyfforddi eraill yn ystod cyfnodau tyngedfennol ac adegau isel: gan osgoi cynhyrfu’r dyfroedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

193 llofnod

Dangos ar fap

10,000