Deiseb a wrthodwyd Rhaid atal awdurdodau lleol rhag gwastraffu arian ar dwmpathau arafu traffig
Yn lle cosbi pob gyrrwr, dylid ceisio dal y rhai sy’n gyrru’n rhy gyflym. Mae twmpathau arfau traffig yn gwbl anghyfleus i unrhyw ddinesydd sy’n ufudd i’r gyfraith. Maent yn difrodi cerbydau, yn achosi llygredd sŵn, yn achosi llygredd aer yn sgil y ffaith bod gyrwyr yn arafu ac yna’n cyflymu, ac yn achosi damweiniau a nifer o ddamweiniau agos yn sgil y ffaith bod gyrwyr yn osgoi rhannau o'r twmpathau. Yn wir, maent yn gwbl ddiwerth, gan fod y 'math' o yrrwr y maent yn eu targedu yn gyrru drostynt heb newid eu cyflymder, fel pe na baent yno o gwbl. Felly, maent yn wastraff arian llwyr.
Rhagor o fanylion
Gan fod 15-20 o dwmpathau wedi’u gosod dros rhan o’r ffordd ger fy nghartref sy’n tua milltir o hyd, gallaf gadarnhau’r pwyntiau uchod. Yn lle defnyddio’r eitemau gwastraffus hyn, efallai dylid defnyddio unedau camera symudol a thechnolegau eraill er mwyn dal a chosbi troseddwyr yn yr ardaloedd dan sylw, yn hytrach na chosbi gweddill y boblogaeth sy’n gyrru.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi