Deiseb a gwblhawyd Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth
Gydag un o bob pump o bobl yma yng Nghymru yn byw gydag anabledd yn ôl SYG, ni fu erioed yn bwysicach i Gymru ddod yn genedl wirioneddol gynhwysol i'w holl ddinasyddion. Rydym am i Gymru fod y wlad ddatganoledig gyntaf i gael ei Gweinidog anabledd pwrpasol ei hun. Gyda gweinidog pwrpasol yn canolbwyntio ar anabledd, gallwn gymryd camau brasach tuag at system gyflogaeth decach, creu mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr anabl a chynnig mwy o gymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Rhagor o fanylion
Enghreifftiau o ystadegau anabledd yng Nghymru.
(1) Mae anabledd gan fwy nag un o bob pump o bobl o oedran gweithio yng Nghymru.
(2) Nid oes gan 21 y cant o orsafoedd trenau yng Nghymru fynediad heb risiau ac, ar y gyfradd bresennol, ni fydd gorsafoedd yn gwbl hygyrch tan 2070.
(3) Mae problem iechyd meddwl gan un o bob pedwar o bobl.
(4) Roedd 330,000 o bobl anabl yn ddi-waith y llynedd. Y llynedd, roedd 81.8 y cant o bobl nad ydynt yn anabl yn gyflogedig o gymharu hynny â 53.2 y cant o bobl anabl ar yr un pryd yn ôl ystadegau’r SYG (DU)
Dyma ychydig o enghreifftiau o pam y gall cael gweinidog anabledd pwrpasol yn Llywodraeth Cymru roi trefn ar y materion hyn ynghylch anabledd yng Nghymru.
(2)Leonard Cheshire. Trains for All Campaign, 2019
(3)ONS, Psychiatric Morbidity, 2007
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon