Deiseb a wrthodwyd Rhowch ganiatâd i leoliadau cerddoriaeth gynnal digwyddiadau gyda chyfyngiadau Covid ar waith
Rwy'n ysgrifennu atoch gan fy mod o’r farn y dylai lleoliadau cerddoriaeth annibynnol gael caniatâd i gynnal digwyddiadau os yw’r cyfyngiadau diogelwch priodol ar waith mewn perthynas â’r Coronafeirws. Mae tafarndai cadwyn fel Wetherspoons ar agor ac yn masnachu, ac rwyf wedi gweld digon o dafarndai eraill lle nad yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn o gwbl. Rwy'n credu y dylai lleoliadau cerddoriaeth fod yn gallu cynnal nosweithiau arbennig â chapasiti cyfyngedig os yw’r holl fesurau diogelwch priodol ar waith. Mae lleoliadau o’r fath yn ei chael hi'n anodd, ac felly hefyd ein cerddorion a’n beirdd ac yn y blaen. Rwyf o’r farn bod angen ein help arnynt nawr yn fwy nag erioed.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi