Deiseb a wrthodwyd We call on the Welsh Govt to immediately introduce a National Universal Basic Income for Wales.
We call on the Welsh Government to:
Announce an emergency Universal Basic Income. Set at a sufficient level, unconditional & universally applied. This is the ONLY way to keep Welsh citizens safe in the near & longer term.
Rhagor o fanylion
We are in both an acute immediate crisis as well as an established longer term socio-economic crisis in Wales, with one exacerbating the other.
Covid-19 alongside the long term decline in the socio-economic well being of Wales, highlighted by the continual growth of people in Wales, especially children, living in poverty has resulted in the immediate necessity for a sufficient Universal Basic Income to be instituted.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae’n ymwneud â rhywbeth nad yw’r Senedd na Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdano.
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.
Mae paragraff 130 o Atodlen 7A yn cadw pwerau dros gynlluniau nawdd cymdeithasol a gefnogir gan gronfeydd cyhoeddus i Senedd y DU. Mae’r Nodiadau Esboniadol i Atodlen 7A yn darparu bod dulliau cymorth ariannol sy’n cael eu gweinyddu a’u hariannu’n uniongyrchol gan lywodraeth ganolog neu lywodraeth leol (boed yn gyfan gwbl neu’n rhannol) fel budd-daliadau nawdd cymdeithasol, pensiynau gwladol, lwfansau, grantiau, benthyciadau neu unrhyw fath arall o gymorth ariannol, yn cael eu cadw’n ôl. Nodir yn ffurfiol nad oes gan y Senedd gymhwysedd i ddeddfu mewn perthynas â sefydlu nac ariannu cynlluniau budd-daliadau sydd wedi’u sefydlu at ddibenion nawdd cymdeithasol.
O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.
Mae rhagor o wybodaeth am bwerau deddfwriaethol y Senedd i’w gweld yma:
https://senedd.wales/cy/abthome/role-of-assembly-how-it-works/Pages/Powers.aspx
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi