Deiseb a wrthodwyd Darparu profion llygaid a sbectol am ddim gan y GIG bob dwy flynedd
Mae llawer o bobl ledled Cymru angen gwisgo sbectol i gywiro eu golwg. Efallai na fydd ganddynt gyflyrau cymhleth, ond heb ryw fath o gymorth optegol, ni allant weld yn glir. Argymhellir hefyd bod pobl yn ymweld ag optegydd bob dwy flynedd os yw hyn yn wir.
Ar gyfer pobl nad oes ganddynt gyflyrau cymhleth, sydd dros 18 mlwydd oed ac angen gwisgo sbectol, nid ydynt ar gael am ddim er eu bod yn angenrheidiol i fedru gweld.
Rhagor o fanylion
Gall sbectol gostio cymaint â £70, ac yn uwch mewn rhai achosion, am sbectol sylfaenol, a gwaethygir hyn gan y ffaith y codir tâl am y prawf llygaid ei hun hefyd hyd yn oed. Yn syml, nid yw’n iawn nac yn deg i bobl sydd angen gwisgo sbectol orfod gwario’u harian eu hunain i allu gweld.
Mae’n teimlo’n debycach i fath ychwanegol o drethiant am y fraint o allu gweld yn iawn, rhywbeth y gall llawer o bobl ei gymryd yn ganiataol gan nad oes angen iddynt wisgo sbectol o gwbl.
Caiff y golwg ei drin fel ychwanegiad moethus, fel petai’n rhywbeth y gall pobl fyw hebddo. Mewn gwirionedd, i bobl y mae angen gwisgo sbectol arnynt, gall peidio â gwneud hynny arwain at gyflyrau gwaeth o lawer ac at ddallineb llwyr, sy’n beth ofnadwy i bobl.
Dylai’r prawf llygaid a’r sbectol presgripsiwn fod am ddim unwaith bob dwy flynedd i’r rhai y mae eu hangen arnynt.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi