Deiseb a gwblhawyd Dylid ailagor theatrau a lleoliadau perfformio yng Nghymru mewn pryd ar gyfer tymor yr Ŵyl.

Bydd mwyafrif theatrau rhanbarthol y DU yn creu mwy o incwm yng nghyfnod 'yr Ŵyl' nag ar unrhyw adeg arall o'r flwyddyn. Mae amser yn prysur ddiflannu i theatrau gael gwybod a fyddan nhw’n cael agor mewn pryd ar gyfer y cyfnod hwn. Er bod llawer o'r lleoliadau proffil uchel yng Nghymru eisoes wedi gohirio eu cynyrchiadau Nadolig, mae cannoedd a fydd yn gallu cynhyrchu a pherfformio theatr yn ddiogel o gael digon o rybudd eu bod yn cael agor.

Rhaid trafod y mater hwn a’i ddatrys yn brydlon.

Rhagor o fanylion

Mae theatrau Cymru ar gau ac nid oes dim gwybodaeth am bryd y gallai’r sefyllfa hon newid. Ar hyn o bryd gall tafarndai a bwytai agor gyda threfniadau i gadw pellter cymdeithasol rhwng byrddau, gall campfeydd agor gyda phellter cymdeithasol rhwng defnyddwyr, a gall addoldai agor gyda’u cynulleidfaoedd yn cadw pellter cymdeithasol. Ond nid felly theatrau.

Os caniateir iddyn nhw agor, gall theatrau sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw pellter cymdeithasol, naill ai trwy werthu seddi unigol neu drwy werthu seddi ar gyfer grwpiau teuluol (yn union fel archebu bwrdd mewn bwyty). Mae theatrau yn barod ar gyfer dilyn ac olrhain am eu bod eisoes yn lleoliadau sydd â systemau gwerthu tocynnau. Gellir gofyn i gynulleidfaoedd wisgo masgiau, gellir cwtogi perfformiadau, a gellir peidio â chynnal egwylion er mwyn lleihau ciwio ac ati.
Gellir rhoi’r holl fesurau hyn ar waith i sicrhau bod cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff yn ddiogel. Ond nid yw theatr yn gweithio fel tap. Mae angen digon o rybudd arnom y byddwn yn cael agor er mwyn ymarfer, cynllunio, adeiladu, rigio a gweithio'n ddiogel.

Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu theatrau Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

157 llofnod

Dangos ar fap

5,000