Deiseb a wrthodwyd Darparu cyllid brys COVID-19 i gefnogi cyfleusterau a phyllau nofio yng Nghymru

Cofnododd Nofio Cymru bod 500,000 o bobl yn defnyddio pyllau nofio bob wythnos ar gyfer ystod eang o weithgareddau nofio ledled Cymru cyn COVID-19 – gwersi dysgu nofio, sesiynau nofio ysgol (atal boddi), nofio iechyd a ffitrwydd cyhoeddus, nofio clybiau, cystadlaethau, galâu a digwyddiadau, heb sôn am baratoadau Carfan Genedlaethol Cymru ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 2020 a Gemau’r Gymanwlad yn 2022.

Rhagor o fanylion

Ar 10 Awst 2020, ailagorodd pyllau nofio gyda chyfyngiadau ar ôl bod ar gau am 5 mis, ac mae'r goblygiadau ariannol a ddaw yn sgil hynny ar draws Awdurdodau Lleol, Ymddiriedolaethau Hamdden Cymunedol a Gweithredwyr Cyfleusterau yn enfawr, gan beryglu dyfodol cyfleusterau yng Nghymru.

Mae arolwg o 38 o weithredwyr yng Nghymru gan Nofio Cymru ym mis Medi 2020 yn amcangyfrif bod y colledion hyd yma tua £30 miliwn o bunnoedd, gyda cholledion pellach yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi