Deiseb a wrthodwyd Newid pwyslais yr economi oddi wrth dwristiaeth anghynaladwy.
Galwn ar Lywodraeth Cymru, ynghyd â'n Awdurdodau Lleol i:
- lunio strategaeth economaidd uchelgeisiol ar gyfer ein cymunedau nad sydd yn datblygu ymhellach nac yn gyrru pobl tuag at y diwydiant or-dwristiaeth anghynaladwy sydd yn bodoli ar draws Cymru.
- fynd ati ar frys i wireddu economi â diwydiannau sydd â llwybrau gyrfaol da ac sydd yn talu'n dda mewn swyddi parhaol ar draws Cymru.
- i roi pwerau i bobol yn lleol i'w galluogi i reoli gwerthiant a defnydd cartrefi yn eu cymunedau.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Nid yw’n glir beth mae’r ddeiseb yn gofyn i’r Senedd neu Lywodraeth Cymru ei wneud. Mae angen i ddeisebau alw ar y Senedd neu’r Llywodraeth i gymryd camau penodol.
Gallwch geisio creu deiseb newydd sy’n cynnwys camau clir yr hoffech i’r Senedd neu Lywodraeth Cymru eu cymryd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi