Deiseb a gwblhawyd Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru
Gofynnwch i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac mae'n siŵr y byddent yn dweud wrthych eu bod yn credu y cafodd yr arfer o osod maglau ar gyfer anifeiliaid gwyllt ei wahardd yn yr oesoedd tywyll, ond yn anffodus mae’r gwir yn dra wahanol. Y gwir yw bod miloedd o anifeiliaid gwyllt a domestig yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru bob blwyddyn gan fod pobl yn defnyddio maglau.
Rhagor o fanylion
Ar hyn o bryd, dim ond cod arfer gorau sydd gennym o ran eu defnydd, er bod y trapiau'n wirioneddol greulon. Nid oes lle iddynt yn y Gymru fodern sy'n ystyriol o fywyd gwyllt.
Mae’r maglau yn wifrau tenau â dolen sydd wedi’u dylunio i ddal ac achosi marwolaeth i’r dioddefwr yn y pen draw. Mae’r ffordd y maen nhw wedi’u dylunio’n golygu eu bod yn aml iawn yn achosi i’r anifail sydd wedi’i ddal ynddynt golli aelodau neu dagu, a dioddef marwolaeth araf.
Mae awgrymu "Cod arfer gorau" yn gyfwerth â chael "Cod arfer gorau" ar gyfer defnyddio’r gadair drydan. Mae'r ddau yn greulon ac yn annynol yn eu hanfod.
Mae hefyd yn anodd iawn gorfodi'r rheoliadau ynglŷn â gosod maglau, sy'n digwydd yn bennaf ar dir preifat mewn lleoliadau anghysbell.
Ar adeg pan yr ydym yn ceisio ailgyflwyno llawer o rywogaethau a gollwyd ers amser maith (oherwydd erledigaeth a hela anwybodus yn y gorffennol), fel bele’r coed, gwiwerod coch, ceirw, dyfrgwn a hyd yn oed afancod, mae dyluniad anwahaniaethol y maglau yn golygu y bydd llawer o'r rhywogaethau gwarchodedig hyn yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y pen draw.
Mae'r trapiau anwahaniaethol hyn hefyd yn fygythiad gwirioneddol ac annerbyniol i'n cathod a chŵn anwes teuluol. Gwnewch Gymru'n rhydd rhag maglau!
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon