Deiseb a gwblhawyd Dileu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o’r elfen orfodol o Fil Cwricwlwm 2020.

Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) yn rhan o broses o gyflwyno addysg rhywioldeb fyd-eang nad yw'n briodol ar gyfer y wlad hon. Mae'n rhywioli plant, yn methu â diogelu, yn ymddangos i’r darllenydd fel modelau o droseddu, yn cynnwys rhwystrau i ddatgelu, ac nid yw adrannau’r awdurdodau lleol sy’n gysylltiedig wedi cael hyfforddiant digonol i weld yr arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol, camfanteisio, ymddygiad rhywiol niweidiol, a llawer mwy! Yn ogystal â hynny, mae gennym dystiolaeth bod diffyg dealltwriaeth gan y rhai sy'n ymwneud â Chwricwlwm Cymru o’r broses gyflwyno fyd-eang hon.

Rhagor o fanylion

Rydym yn brwydro yn erbyn y ddeddfwriaeth, nid addysg. Nid oes mesurau diogelu ar waith. Mae'r ymchwil yn gwbl annigonol drwyddi draw. Dyma rai lincs i erthyglau, gwefannau a rhai pynciau ymchwil posibl sy'n ymwneud ag addysg rhywioldeb:
"Sefydliad Iechyd y Byd- Standards in sexuality Education 2010 " https://www.euro.who.int/en/health-topics/Life-stages/sexual-and-reproductive-health/news/news/2010/12/standards-for-sexuality-education-in-europe-start-their-way-to-countries-of-eastern-europe-and-central-asia
"UNESCO- International technical guidance on sexuality education 2018". https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000260770
https://llyw.cymru/canllawiau-drafft-ar-addysg-cydberthynas-rhywioldeb (MAE’R LINC UNIONGYRCHOL AR DUDALEN 4)

Mae grwpiau eraill sy'n ymgyrchu yn erbyn addysg rhywioldeb mewn ysgolion yn cynnwys:
• The Scottish Family Party
• Family Watch
• School gate campaign, Lloegr

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,307 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl yn sgil y ffaith bod y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yn destun gwaith craffu gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y ffaith bod cyfle i'r Aelodau gynnig gwelliannau i'r Bil, a’r ffaith bod y mater o gynnwys Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y Cwricwlwm eisoes wedi'i drafod yn y Cyfarfod Llawn fel rhan o’r broses o graffu ar y Bil: https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=28836