Deiseb a gwblhawyd Caniatáu i blant fynd i mewn i ardaloedd dan gyfyngiadau symud i barhau i hyfforddi gyda'u clybiau chwaraeon.

Mae plant sy’n gwneud athletau, gymnasteg, nofio, pêl-droed yn cael eu hatal rhag parhau â’u hyfforddiant gyda’u clybiau yn y chwaraeon o’u dewis oherwydd ffiniau’r ardaloedd dan gyfyngiadau symud.

Rhagor o fanylion

Mae clybiau wedi cyflwyno gweithdrefnau diogelwch ar gyfer COVID-19 a chaniateir i blant o fewn ffiniau'r sir hyfforddi, ond nid yw’r rhai y tu allan i'r ardaloedd yn cael gwneud hynny. Mae hyn yn golygu bod cyfleusterau chwaraeon yng Nghasnewydd, Abertawe a Chaerdydd ar gael ar gyfer y plant yn ardal y sir yn unig, tra bod plant sy'n byw dim ond pum milltir i ffwrdd yn cael eu hatal rhag hyfforddi. Hoffem i'r Senedd ganiatáu i blant fynychu eu clybiau chwaraeon a'i gwneud yn “esgus rhesymol” dros fynd i mewn i ardal dan gyfyngiadau symud fel y gall plant barhau i hyfforddi yn ystod misoedd y gaeaf.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

9,867 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn sgil y newidiadau a wnaed i reoliadau’r Coronafeirws, a oedd yn caniatáu i blant deithio y tu hwnt i ardaloedd lleol lle’r oedd cyfyngiadau symud ar waith, er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.