Deiseb a gwblhawyd Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun bwrsariaethau i gynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio gradd meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth (a elwir hefyd yn bynciau 'STEMM'). Ar hyn o bryd mae’r cyllid hwn yn berthnasol i brifysgolion traddodiadol yn unig, sy’n eithrio myfyrwyr sy'n dewis gradd Meistr mewn pwnc STEMM trwy ddarparwyr eraill. Mae hyn yn eithrio rhai myfyrwyr y mae angen mwy o hyblygrwydd arnynt o ran y pwnc STEMM neu sut caiff y cwrs ei gyflwyno.

Rhagor o fanylion

Argymhellodd adolygiad Diamond y dylid ymdrechu “i alluogi myfyrwyr i astudio yn y modd sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau”. (Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, 2016).
Ar hyn o bryd nid oes hawl gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd Meistr STEMM yn Ysgol yr Amgylchedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth gael bwrsariaeth STEMM gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyrsiau a ddarperir yn CAT yn canolbwyntio’n benodol ar gynaliadwyedd, sy'n cyd-fynd ag ymdrechion Llywodraeth Cymru i newid cwrs Cymru tuag at lwybr mwy cynaliadwy (e.e. trwy'r egwyddorion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015).
Mae dull addysgu hyblyg yn CAT, ac yn wahanol i brifysgolion traddodiadol, mae'n galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer gradd Meistr a addysgir gan barhau â’u gwaith/cyfrifoldebau gofalu.
Credwn fod eithrio myfyrwyr STEMM mewn sefydliadau fel CAT rhag gallu cael arian bwrsariaeth STEMM yn mynd yn groes i nodau’r polisi bwrsariaeth STEMM.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

88 llofnod

Dangos ar fap

10,000