Deiseb a wrthodwyd Tax 40% on the sale of a existing second home in Wales if the sale is going to leave Wales.
It is in the interest of Wales to hold on to its stock of houses.
Rhagor o fanylion
This tax will in turn fund the construction and refurbishing of affordable housing for all.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.
Rydych wedi amlinellu y buasech yn gweld y dreth yn daladwy gan rywun yn gwerthu ail gartref presennol, pe baent yn ei werthu i rywun nad yw yn byw yng Nghymru.
Byddai angen i unrhyw dreth newydd gydymffurfio â chyfriethiau eraill gan gynnwys Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae hon yn amlinellu bod ‘gwahaniaeth anuniongyrchol’ yn digwydd pan gaiff polisi neu arfer ei roi ar waith sy’n gymwys yn yr un modd i bawb ond sy’n rhoi grŵp penodol o bobl o dan anfantais os ydynt yn rhannu nodweddion gwarchodedig. Caiff nodwedd warchodedig ‘hil’ ei diffinio o dan adran 9(1) o Ddeddf 2010 i gynnwys ‘cenedligrwydd’ a ‘tharddiad cenedlaethol’.
Byddai treth yn seiliedig ar y lleoliad y mae prynwr yr eiddo yn tarddu ohono yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol, gan y byddai prynwyr o’r tu allan i Gymru o dan anfantais o’i gymharu â phrynwyr o Gymru.
O ganlyniad, nid yw’n bosibl i’r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn galw amdanynt.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi