Deiseb a gwblhawyd Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed

COVID-19 – yn ôl y rheolau /deddfwriaeth bresennol, dim ond 30 o bobl a ganiateir mewn man awyr agored! Ar gyfer gêm bêl-droed, mae angen 11 yn erbyn 11 ynghyd â swyddogion a staff... felly mae'n amhosibl ailddechrau’r cynghreiriau cystadleuol i oedolion tan fod y nifer hon yn cael ei chynyddu! Gellir cynnal gemau yn ddiogel ac yn effeithiol pe bai'r nifer yn cynyddu i 30 o bobl heb gynnwys y chwaraewyr a'r swyddogion ar y cae. Gofynnwn i chi gysylltu â Chymdeithas Bêl-droed Cymru ac ystyried cynyddu’r niferoedd fel y gall Haen 2 ac is ailddechrau chwarae.

Rhagor o fanylion

Noder bod Cymdeithas Bêl-droed Lloegr / Cymdeithas Bêl-droed yr Alban a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon fwy neu lai wedi ailddechrau eu cynghreiriau pêl-droed lleol a chenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,330 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 13 Ionawr 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cynyddwch nifer y bobl sy'n cael bod mewn mannau awyr agored fel y gall pob tîm yng Nghymru ailddechrau chwarae pêl-droed’ yn cael ei thrafod

Trafododd y Senedd y ddeiseb hon yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2021 fel rhan o ddadl ar fynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud.