Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu i bobl hŷn gael mynediad i gyfleusterau chwaraeon awyr agored ar gyfer eu lles corfforol a meddyliol
Mae aelodau hŷn o’r gymdeithas yn aml wedi colli partner ac mae ganddynt gylch o ffrindiau yn eu clybiau priodol. Mae hyn yn arbennig o berthnasol mewn clybiau golff. Efallai bod y clwb y tu allan i'r ardal sydd o dan glo, weithiau dim ond taith byr y tu hwnt i’r ffin. Mae eleni wedi bod yn anodd i bawb ond mae wedi bod yn arbennig o anodd i'r grŵp oedran hwn, wrth i’r pandemig effeithio ar eu hiechyd corfforol a chael effaith ddifrifol ar eu hiechyd meddwl hefyd.
Rhagor o fanylion
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud na ddylid gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran. Mae achosion o wahaniaethu sy’n groes i’r Ddeddf Cydraddoldeb yn anghyfreithlon.
Mae newidiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i bobl ifanc deithio allan o ardal sydd dan glo i glwb chwaraeon personol.
Mae'r weithred hon yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn y mae angen iddyn nhw hefyd ddefnyddio’r fath gyfleusterau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon