Deiseb a wrthodwyd Stopiwch y cynlluniau arfaethedig i wahardd pobl rhag dod i mewn i Gymru

Mae Mark Drakeford wedi bygwth Boris Johnson y bydd yn cau’r ffin os yw Llywodraeth y DU yn gwrthod cymryd y cam llym o ddefnyddio’r gyfraith i wahardd pobl sy’n dod o fannau yn Lloegr â nifer fawr o achosion o COVID-19 rhag dod i mewn i Gymru.
Mae defnyddio bygythiad o gosb gyfreithiol i wahardd pobl rhag dod i mewn i Gymru yn gam di-hid ac yn ddefnydd amhriodol o gosbau troseddol.

Byddai'r mesur arfaethedig yn effeithio'n anghymesur ar gymunedau ar y ffin yng Nghymru ac yn Lloegr (e.e., Saltney yn Sir y Fflint a Chaer yn Swydd Gaer).

Rhagor o fanylion

Nid yn unig y byddai cymunedau ar y ffin yn dioddef yn anghymesur, byddai hyn hefyd yn cael effaith niweidiol ar ardaloedd o Gymru sy'n ddibynnol ar dwristiaeth o Loegr.

Mae gwaharddiad Drakeford yn gwbl amhriodol ac yn enghraifft dda o gyhoeddi mesurau o Gaerdydd a fyddai’n gwneud niwed economaidd, cymdeithasol ac emosiynol anadferadwy i’r rhai sy’n byw ymhell o Gaerdydd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi