Deiseb a wrthodwyd Caniatewch i bobl sengl deithio allan o ddinasoedd i syrffio ar gyfer eu hiechyd meddwl pan fo cyfyngiadau symud ar waith.
Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, gwrthodwyd cyfle i mi deithio a syrffio. Mae fy iechyd meddwl wedi bod yn anodd ar y gorau, ac yn amhosibl ar y gwaethaf. Mae syrffio wedi fy helpu i fynd drwy hyn ac wedi fy helpu i fynd i’r afael ag iselder tymor hir cronig. Syrffio oedd yr un peth oedd yn fy nghadw yn fy iawn bwyll - heb gyfle i wneud hynny, roeddwn yn ofni am fy mywyd. Gall syrffio newid bywydau pobl. Rydym yn gofyn i'r llywodraeth ganiatáu i bobl sengl sy'n byw ar eu pennau eu hun yrru i draethau er mwyn syrffio.
Rhagor o fanylion
Mae syrffio ers blynyddoedd wedi bod o fudd enfawr i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ac mae Cymru yn gartref i rai o syrffwyr gorau’r byd, ond mae nifer fawr o bobl â salwch meddwl yng Nghymru hefyd.
Mae wedi bod yn hysbys bod syrffio’n arwyddocaol iawn wrth drin iselder ysgafn, salwch meddwl tymor hir cronig ac anhwylder straen wedi trawma, felly mae gwrthod cyfle i bobl o ddinasoedd fynd i'r cefnfor yn greulon a bod yn onest.
Dywedodd Nick Hounsfield, sefydlwr prosiect The Wave:
"Cred yn y manteision o fod mewn dŵr ac mewn natur sydd wrth wraidd The Wave. Mae ein hadroddiad yn edrych ar y damcaniaethau a'r ymchwil sydd y tu ôl i'r hyn y mae llawer ohonom yn ei deimlo'n reddfol - y bydd ein hwyliau’n codi o fod yn y dŵr. Mae'r pandemig wedi cael effaith niweidiol ar iechyd meddwl i lawer o bobl ac mae arnom angen buddion llesiant dŵr a syrffio - nawr yn fwy nag erioed."
Mae’n rhaid caniatáu i syrffwyr sy’n gaeth i’r tir ac yn dioddef o salwch meddwl deithio ar eu pennau eu hun i syrffio ar gyfer eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.
Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?
Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.
Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.
Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod
Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi