Deiseb a gwblhawyd Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor.

Pe bai’n rhaid i Lywodraeth Cymru osod cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith eto, dylid ystyried bod campfeydd yr un mor bwysig â siopau er mwyn diogelu iechyd y genedl. Maent yn llawer llai o berygl o ran trosglwyddiad Covid-19 na bwytai a thafarndai.

Rhagor o fanylion

https://www.ukactive.com/news/fitness-and-leisure-sector-reports-covid-rate-of-0-34-per-100000-visits-since-reopening-in-england/
- Arweiniodd 22,000,000 (22 miliwn) o ymweliadau â champfeydd at ddim ond 78 o achosion o Covid
- Campfeydd y DU yn dangos dim ond 0.35 o achosion fesul 100,000 o ymweliadau
https://www.bbc.co.uk/news/uk-england-derbyshire-54464470
Mae campfeydd yn dal i ddangos dim ond 1.7 y cant o achosion, ond maent am ein cau a chadw bwytai, sydd â chyfradd uwch, sef 9.6 y cant o achosion, yn agored.
Mae hunanladdiad dynion bellach ar gyfradd uwch nag erioed o’r blaen https://www.bmj.com/content/370/bmj.m3431
Dengys data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion a bechgyn yn 2019, sef 16.9 marwolaeth ym mhob 100,000, sef y gyfradd uchaf ers 2000 ac ychydig yn uwch na chyfradd 2018 sef 16.2 ym mhob 100,000 o farwolaethau. Y gyfradd hunanladdiad ymhlith menywod a genethod oedd 5.3 marwolaeth ym mhob 100,000 yn 2019, sef cynnydd o 5.0 ym mhob 100,000 o gymharu â 2018 a'r gyfradd uchaf ers 2004.
Gweler y linc a ganlyn:
https://academic.oup.com/qjmed/article/113/10/707/5857612 sy'n trafod hunanladdiad, iechyd meddwl a Covid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

20,616 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 13 Ionawr 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Cadwch gampfeydd ar agor ac ystyriwch eu bod nhw mor bwysig â siopau, os cyflwynir cyfyngiadau symud cenedlaethol unwaith yn rhagor.’ yn cael ei thrafod

Trafododd y Senedd y ddeiseb hon yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Ionawr 2021 fel rhan o ddadl ar fynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud.