Deiseb a gwblhawyd Mae’r sector gwallt a harddwch wedi profi ei fod yn ddiogel o ran COVID-19. Peidiwch â’n cau a pheryglu swyddi yng Nghymru unwaith yn rhagor

Mae’r diwydiant gwallt a harddwch yng Nghymru wedi cydymffurfio â'r rheoliadau llymaf ers iddo ailagor, ac mae wedi profi, nid yn unig ei fod yn ddiogel o ran Covid-19, ond ei fod yn un o'r lleoliadau mwyaf diogel o ran trosglwyddiad y feirws. Mae gennym gyfarpar diogelu personol helaeth, camau hylendid a'r gallu i gydymffurfio â gofynion olrhain. Ni oedd un o'r sectorau olaf i ailagor ac mae’r sector wedi dioddef rhai o'r colledion mwyaf o ganlyniad i gyfyngiadau lleol a chenedlaethol.
Rydym wedi gwneud popeth sy’n bosibl i gadw’r rheolau ac felly ni ddylem gael ein cosbi drwy ein cau.

Rhagor o fanylion

Y camau y mae'r sector wedi'u rhoi ar waith yw:
- hyfforddiant ychwanegol o ran cyfarpar diogelu personol (gan gynnwys gwisgo a diosg yn ddiogel) a mabwysiadu'r gofynion mwyaf o ran cyfarpar diogelu personol mewn man nad yw’n lleoliad Covid-19;
- ymgymryd â chamau hylendid traws-halogi a rheoli heintiau;
- gweithio oriau ychwanegol i sicrhau bod staff a chleientiaid yn cael digon o le i gadw pellter, er mwyn amddiffyn swyddi.
Nododd Iechyd Cyhoeddus Lloegr mai gwasanaethau cyswllt agos / gwasanaethau personol yw'r amgylchedd mwyaf diogel fel arfer o ran trosglwyddiad Covid-19 (eithriad i hyn: carchardai). Yn anffodus, nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi data tebyg.
Mae'r sector gwallt a harddwch eisoes wedi colli'r cyfnod masnachu yn yr haf (yr amcangyfrifir sy’n 60 y cant o'r trosiant blynyddol). Y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig yw'r ail gyfnod prysuraf. Er na fydd cynnydd cystal eleni, byddai cau busnesau gwallt a harddwch ar yr adeg hon yn golygu bod colli swyddi a chau busnesau ym mis Ionawr yn anochel
Ni ddylid cosbi ein sector a ninnau wedi profi y gallwn wneud popeth yn iawn. Gallwn gadw pobl yn ddiogel.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

6,074 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor beidio â chyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn sgil y newidiadau a wnaed i reoliadau’r Coronafeirws o ganlyniad i’r dirywiad a welwyd yn y sefyllfa o ran y pandemig tua diwedd 2020.