Deiseb a wrthodwyd Caniatáu i chwaraeon hamdden (rhai nad ydynt yn seiliedig ar dimau) yn yr awyr agored ddigwydd ar draws ffiniau sirol

Mae cofnod o’r Gweinidog Iechyd yn dweud nad yw COVID-19 yn cael ei drosglwyddo mewn mannau awyr agored. Mae rhwystro mathau o chwaraeon hamdden nad ydynt yn seiliedig ar dimau yn cael effaith negyddol ar iechyd a lles yn fwy eang. Mae gan Gaerdydd ddwysedd poblogaeth o 2000 fesul km. Mae Taith Taf a lleoliadau eraill bellach yn brysur gan nad yw pobl yn gallu gwasgaru ar draws ffiniau sirol i leoliadau awyr agored eraill. Gall hyn ddigwydd ar yr amod nad yw pobl yn mynd i mewn i gartrefi, adeiladau nac yn cymysgu ag aelwydydd eraill.

Rhagor o fanylion

Ni chyflwynwyd tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru i ddangos bod modd trosglwyddo COVID-19 drwy gymryd rhan mewn chwaraeon awyr agored (rhai nad ydynt yn seiliedig ar dimau) o faes epidemioleg nac astudiaethau tracio ac olrhain i ddangos bod angen y cyfyngiadau presennol ar draws ffiniau sirol.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yn sgil newidiadau mewn amgylchiadau a rheoliadau gan Lywodraeth Cymru ers creu'r ddeiseb, penderfynodd y deisebydd dynnu'r ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi