Deiseb a gwblhawyd Gadewch i ddinasyddion Cymru bleidleisio ar gyfyngiadau symud.
Rwy'n credu y dylai pobl Cymru gael dweud eu dweud ynglŷn â sut y dylid ymdrin â'r mater.
Enghraifft
Cyfyngiadau llawn
Cyfyngiadau rhannol
Dim cyfyngiadau a masgiau’n ddewisol
Mae'n effeithio ar fywydau pawb, felly dylai pawb gael dweud ei ddweud.
Rhagor o fanylion
Mae pawb yn sylweddoli bod y rhifau sy'n cael eu cyhoeddi yn anghywir ar y cyfan ac nid yw'r Llywodraeth ei hun yn gwybod sut i fynd i'r afael â’r peth.
Mae’r feirws yn effeithio ar lawer mwy o bobl, heb eu bod hyd yn oed yn dod i gysylltiad ag ef.
Mae pobl yn dioddef wrth i’w busnesau gau ac maen nhw’n dioddef oherwydd biliau ac ati. Mae pobl yn cael eu heffeithio, ac mae rhai yn marw hyd yn oed, trwy beidio â chael diagnosis na chael eu trin hyd yn oed. Mae hefyd broblemau iechyd meddwl, gan fod pobl yn methu â chymdeithasu na dal i fyny gyda'u hanwyliaid a'u ffrindiau os ydyn nhw am wneud.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon