Deiseb a gwblhawyd Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru.
Mewn nifer o ardaloedd gwledig a thwristaidd y mae cyfran helaeth o drigolion yn cael eu hamddifadu o gartrefi am fod prisiau tai wedi eu chwyddo gan y galw am ail gartrefi a thai gwyliau. Gallai'r Prif Weinidog gyfarwyddo Gweinidogion priodol i gychwyn trafodaethau ar frys gydag Awdurdodau Lleol i lunio strategaeth i sicrhau fod rheolaeth gan gymunedau ar y farchnad dai yn bennaf trwy ddiwygiadau yn y drefn gynllunio
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon