Deiseb a gwblhawyd Dylid rhoi mannau addoli mewn dosbarth hanfodol, er mwyn caniatáu i bobl fynd i eglwys yn ystod cyfnod o gyfyngiadau symud

Mae mannau addoli wedi'u dosbarthu fel mannau nad ydynt yn hanfodol gan Lywodraeth Cymru. Goblygiadau hyn, yn ei hanfod, yw bod eglwysi wedi cael eu rhoi yn yr un dosbarth o ran pwysigrwydd â siopau manwerthu ac ni allant gynnal gwasanaethau yn ystod "cyfnod atal byr" neu "gyfyngiadau symud". Nid oes tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19. Mae eglwysi wedi bod yn un o'r enghreifftiau gorau o amgylcheddau sy’n ddiogel o ran Covid-19, ac maent wedi dilyn canllawiau helaeth, afresymol bron, yn llym, i wneud eu rhan dros y genedl.

Rhagor o fanylion

Er bod rhai wedi dadlau y gall eglwysi barhau i weithredu ar-lein, mae hyn ar draul yr ymdeimlad o gymuned. Mae hyn yn arwain at niwed diangen i bobl, pan nad oes dim tystiolaeth bod eglwysi wedi cyfrannu at ledaeniad Covid-19.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,591 llofnod

Dangos ar fap

5,000