Deiseb a wrthodwyd Gostwng Prisiau Trafnidiaeth Gyhoeddus i blant o dan 16 oed

Ar hyn o bryd mae rhaid i blant o dan 16 oed dalu swm afresymol o £16 dim ond i deithio i’r ysgol bob dydd. Ar y llaw arall, gall pobl ifanc 16-21 oed dalu llai na ni. Credwn fod hyn yn annheg ac mae angen ei newid.

Rhagor o fanylion

Rydym am i Lywodraeth Cymru orfodi cwmniau i ostwng eu prisiau neu roi cerdyn i blant sy’n debyg i’r un ar gyfer pobl ifanc 16 -21 fel y gallant dynnu 1/3 oddi ar bris eu siwrnai. Nid ar fysiau cyhoeddus yn unig yr ydym am i hyn ddigwydd, credwn y dylai hyn gynnwys bysiau preifat y mae plant yn talu am eu defnyddio i fynd i’r ysgol bob wythnos.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi