Deiseb a gwblhawyd Rhowch gefnogaeth ariannol i fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes.

Mae'r grantiau diweddaraf sydd ar gael ar gyfer busnesau mewn ardaloedd cyfyngiadau lleol neu yn grantiau datblygu busnes. Mae nifer o fusnesau Lletya Anifeiliaid Anwes y tu allan i ardaloedd cyfyngiadau lleol wedi sylwi bod nifer y cwsmeriaid wedi lleihau i ddim. Ni ellir defnyddio'r Grantiau Datblygu Busnes i dalu biliau misol. Mae angen cymorth ariannol ar fusnesau lletya anifeiliaid anwes nawr i'w hatal rhag mynd i’r wal. Mae cannoedd o swyddi a chartrefi mewn perygl heb gefnogaeth ariannol ddigonol.

Rhagor o fanylion

Mae busnesau lletya anifeiliaid anwes wedi ymdrechu i gadw'r drysau’n agored i helpu staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio oriau hir wrth frwydro i ymdrin â Covid-19, ac maent wedi helpu i ofalu am anifeiliaid anwes pobl sydd wedi bod yn yr ysbyty. Mewn llawer o achosion, mae cael un neu ddau anifail anwes i ofalu amdanynt ar y tro yn costio rhagor iddynt nag y maent yn ei ennill, a chyda rhagor o filiau gwresogi a goleuo dros fisoedd y gaeaf bydd llawer o’r busnesau yn cael eu gorfodi i gau, ac yna ni fydd y gwasanaeth hanfodol hwn ar gael.

Mae'r rhain yn fusnesau a oedd yn llwyddiannus cyn Covid-19 a byddant yn llwyddiannus eto, cyhyd ag y caiff rhywbeth ei wneud i'w diogelu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,144 llofnod

Dangos ar fap

5,000