Deiseb a gwblhawyd Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i chyfyngiadau “cyfnod atal” 17 diwrnod o hyd, yn gwahardd gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn siopau a gaiff aros ar agor. Nid ydym yn cytuno bod hwn yn gam rhesymegol na darbodus, a bydd yn arwain at fwy o niwed na daioni.
Er enghraifft, nid ydym yn cytuno y dylai rhieni gael eu gwahardd rhag prynu dillad ar gyfer eu plant yn ystod y cyfyngiadau symud wrth siopa. Mae hyn yn anghymesur ac yn greulon, ac rydym yn gofyn i’r penderfyniad gael ei wrthdroi ar unwaith.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

67,940 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 11 Tachwedd 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Caniatewch i archfarchnadoedd werthu eitemau “nad ydynt yn hanfodol” yn ystod y cyfyngiadau symud ’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Tachwedd 2020